Cyllid

Gwneud cais am gyllid

Mae’r Comisiynydd yn ariannu gwasanaethau sy’n hybu diogelwch cymunedol, yn amddiffyn pobl rhag niwed ac yn cefnogi dioddefwyr. Rydym yn gweithredu nifer o wahanol ffrydiau ariannu ac yn gwahodd sefydliadau yn rheolaidd i wneud cais am gyllid.

Ein bwriad yw gwneud cyllid yn hygyrch i sefydliadau o bob maint. Darllenwch y dogfennau allweddol ar y dudalen hon cyn gwneud cais am gyllid gan ein swyddfa.

Sylwch, efallai y byddwn yn cau cyfleoedd ariannu o bryd i'w gilydd unwaith y bydd y cyllid sydd ar gael wedi'i ddyrannu. Mae unrhyw derfynau amser a restrir felly yn ddangosol.

Gwneud cais am gyllid

Darllenwch y dogfennau isod sy'n ymwneud â phob un o'n pedair prif ffrwd ariannu cyn i chi wneud cais. Ynghyd â'n Strategaeth Gomisiynu, maent yn nodi sut y byddwn yn sicrhau bod cyllid ar gael a'r meini prawf, telerau ac amodau ar gyfer derbyn cyllid.


Strategaeth Gomisiynu

Darllenwch ein Strategaeth Gomisiynu sy'n nodi ein blaenoriaethau ariannu a sut rydym yn sicrhau bod ein prosesau ariannu yn deg ac yn dryloyw. 

Ystadegau ariannu

Gweler y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o ffrydiau ariannu’r Comisiynydd, gan gynnwys cyfanswm y gyllideb sydd wedi’i dyrannu gan ein tîm.

Newyddion ariannu

Follow our Commissioning Team on X

Pennaeth Polisi a Chomisiynu