Cyllid

Strategaeth Gomisiynu

Strategaeth Gomisiynu

Mae eich Comisiynydd yn gyfrifol am ariannu ystod o wasanaethau lleol sy'n anelu at gynyddu diogelwch cymunedol, lleihau ymddygiad troseddol a chefnogi dioddefwyr troseddau i ymdopi a gwella o'u profiadau.

Comisiynir gwasanaethau gan ddefnyddio pedair cronfa o gyllideb Swyddfa'r Comisiynydd sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol, plant a phobl ifanc, cefnogi dioddefwyr a lleihau aildroseddu. Rydym hefyd yn gwneud cais rheolaidd ac yn derbyn cyllid o grantiau Llywodraeth ganolog ac yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol eraill i gyd-ariannu gwasanaethau.

Mae'r Strategaeth Gomisiynu yn nodi sut mae'r Swyddfa yn blaenoriaethu cyllid gan y Comisiynydd.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl gyllid yn cael ei ddarparu’n deg ac yn dryloyw, a bod gwasanaethau’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn gweithio’n effeithlon ochr yn ochr â’r heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau perthnasol eraill.

Lawrlwythwch ein Strategaeth Gomisiynu fel PDF.

Newyddion ariannu

Dilynwch ni ymlaen

Pennaeth Polisi a Chomisiynu